Academïau

Mae hyfforddi actorion sydd ag anableddau dysgu i berfformio ar lefel broffesiynol yn ganolog i'n nod. Ein nod yw creu cymuned Cymru gyfan o actorion ag anableddau dysgu sydd wedi cael eu hyfforddi i weithio’n broffesiynol yn y theatr, ar y teledu a’r radio.

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cynnig y cyrsiau hyfforddi yma:

  • Yr Academi - hyfforddiant perfformio proffesiynol ar gyfer actorion talentog sydd ag anableddau dysgu

  • Dewisiadau Creadigol - Dysgu sgiliau bywyd drwy ddrama i bobl ag anableddau dysgu

  • Cyfnodau hyfforddi - Cyrsiau sgiliau perfformio dwys, dros gyfnod o wythnos neu bythefnos, a gaiff eu harwain gan gwmnïau ac ymarferwyr blaenllaw yn y diwydiant 

Rydyn ni hefyd yn arbenigwyr ar gynhyrchu Theatr Fforwm, dull i'w ddefnyddio mewn digwyddiadau a chynadleddau i greu trafodaeth am faterion anodd sy'n bwysig i'r gymuned sydd ag anableddau dysgu.

Newyddion Diweddaraf
Cyllid Newydd ar gyfer Hijinx!

Hoffai Hijinx ddiolch yn fawr iawn i'n cefnogwyr newydd sef Sefydliad Paul Hamlyn (The Paul Hamlyn Foundation). Mae Sefydliad Paul Hamlyn yn garedig iawn wedi rhoi grant o £60,000 i ni dros gyfnod o ddwy flynedd fel un o'u Grantiau Archwilio a Phrofi.

Darllen rhagor
Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Ymunwch â ni yn Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Darllen rhagor
DATGANIAD I’R WASG: Gŵyl Undod Hijinx 2017

Gyda 50 diwrnod i fynd, mae Hijinx yn rhestru’r perfformwyr anabl fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni, 28 Mehefin - 2 Gorffennaf 2017.

Darllen rhagor