Aelodau'r Bwrdd

Mike Clark (Cadeirydd)

Mae Mike wedi ymddeol yn ddiweddar fel Rheolwr Gweithredol gyda Gwasanaethau Parciau a Phrofedigaeth Cyngor Sir Caerdydd. Mae ganddo brofiad sylweddol o gyllid, cyd-drafod a rheoli pobl. Mae ei fab, Gareth, yn aelod o Odyssey ac mae ganddo syndrom Down. Bu Gareth ar daith gyda Hijinx yn Full Circle (2008), Old Hands (2011) a The Adventures of Sancho Panza (2012).

Delyth Isaac

Delyth yw Golygydd Uned Wleidyddol BBC Cymru yn gyfrifol am allbwn gwleidyddol BBC Cymru ar raglenni newyddion wythnosol a dyddiol, a’r gwasanaethau digidol. Cyn y swydd yma, roedd Delyth yn gweithio fel cynhyrchydd ar raglenni gwleidyddol ar y teledu a'r radio. Mae ganddi radd mewn Ffrangeg a Gwleidyddiaeth a gradd meistr mewn Newyddiaduraeth.

Ymunodd Delyth â Bwrdd Hijinx ym mis Ebrill 2014 drwy Fanc Byrddau Celfyddydau a Busnes Cymru.

Bob Pontin

Gweithiwr cymdeithasol sydd wedi ymddeol yw Bob, ac mae wedi gweithio'n helaeth gyda phobl ag anableddau dysgu. Archebodd sioeau Hijinx fel hyrwyddwr cymunedol yn y gorffennol. Mae hefyd yn aelod o bwyllgor rheoli Gŵyl Maendy (Casnewydd).

John Prior-Morris MBE

Roedd John yn Rheolwr yng Nghyngor Celfyddydau Cymru ond mae bellach wedi ymddeol. John ddechreuodd y cynllun Noson Allan a bu'n gyfrifol am redeg y cynllun am 25 mlynedd. Cyn hyn, roedd yn actor ac yn gyfarwyddwr a bu'n allweddol wrth sefydlu'r rhwydwaith o gwmnïau Theatr mewn Addysg a oedd yn cael cefnogaeth gan siroedd Cymru a Chyngor y Celfyddydau am dri degawd. Mae'n cynnig arbenigedd mewn teithiau cymunedol i Hijinx.

Newyddion Diweddaraf
Mission Control yn glanio yn nhirnod mwyaf eiconig Cymru

Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer Mission Control gan National Theatre Wales a Gŵyl Undod Hijinx - cynhyrchiad newydd sbon i'w lwyfannu yng nghalon prifddinas Cymru, yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru, Stadiwm y Principality.

Darllen rhagor
Hijinx yn cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol newydd

Mae Hijinx, cwmni theatr gynhwysol sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi enw ei Brif Swyddog Gweithredol newydd heddiw. O fis Hydref, Sarah Horner, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fydd wrth y llyw yn Hijinx.

Darllen rhagor
‘Meet Fred’, y Sioe arobryn ac enillydd gwobrau lu, yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyfle prin i weld ‘Meet Fred’, sioe pum seren Hijinx, yn y DU - 26 - 28 Medi 2019.

Darllen rhagor