Amy Griggs

Lles
02920 635623
amy.griggs@hijinx.org.uk

Ganwyd a magwyd Amy yn swydd Wiltshire ond symudodd i Gymru yn 2008 i ddilyn cwrs gradd mewn Actio ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin. Ar ôl graddio yn 2011 y peth cyntaf wnaeth Amy oedd dod i Gaerdydd i wirfoddoli yng Ngŵyl Undod Hijinx a ’dyw hi ddim wedi gadael! Bu’n ddigon ffodus i gael ei gwahodd i weithio fel staff cymorth i Hijinx yn gynnar yn 2012 ac mae hi wedi parhau yn y swydd hon byth ers hynny, ac yn arweinydd lles myfyrwyr erbyn hyn.

Ochr yn ochr â hyn, treuliodd Amy'r 5 mlynedd diwethaf yn gweithio fel actores gan berfformio mewn cynyrchiadau yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau a theithio o gwmpas Cymru mewn sawl taith berfformio gyda Theatr Taking Flight a Theatr Spectacle.

Mae cynhwysiant wedi bod wrth wraidd bron holl waith Amy ers iddi hi raddio ac mae'n rhywbeth y mae'n teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Hijinx fu'r un elfen gyson trwy gydol ei bywyd gwaith hyd yma ac mae hi'n teimlo’n hynod gyffrous wrth gael parhau ar y daith hon gyda nhw.

Newyddion Diweddaraf
‘Meet Fred’, y Sioe arobryn ac enillydd gwobrau lu, yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyfle prin i weld ‘Meet Fred’, sioe pum seren Hijinx, yn y DU - 26 - 28 Medi 2019.

Darllen rhagor
Tair gwobr i gwmni theatr arloesol Cymraeg

Enillodd y cwmni theatr arweiniol, Hijinx, dair gwobr ar ddydd Iau 21 Mawrth, wrth ddod â thymor 2018-19 llwyddiannus iawn i ben.

Darllen rhagor
Dilynwch friwsion bara Hansel i Ganolfan Mileniwm Cymru!

Y Nadolig hwn, ymunwch ag Odyssey, grŵp theatr gymunedol Hijinx, wrth iddyn nhw ddilyn Hansel a Gedeon ar eu hantur trwy Goedwig Grimm.

Darllen rhagor