Ben Pettitt-Wade

Meet Ben...Rheolwr Artistig a Chyfarwyddwr Gŵyl Undod
029 2063 5627
ben.pettitt-wade@hijinx.org.uk

Ganed Ben yn Llundain (o fewn clyw i glychau eglwys Bow), a'i fagu yn Sir Gaerfyrddin (i gyfeiliant clychau gwartheg). Hyfforddodd mewn Drama ym Mhrifysgol John Moores Lerpwl cyn mynd ymlaen i weithio fel actor. Ar ôl torri ei bigwrn yn un o'r ymarferion, cafodd Ben ei orfodi i gael swydd “go iawn” ar ôl iddo sylweddoli na fyddai bod ar y dôl yn ddigon i ariannu ei ffordd foethus o fyw. Ymunodd â chwmni theatr Spare Tyre yn Llundain fel Gweinyddwr gyda chyfrifoldeb dros gydlynu inc.Theatre, sef cwrs hyfforddiant i actorion ag anableddau dysgu. Dyma lle sylweddolodd Ben ei hoffter o weithio'n gynhwysol ac yn benodol ei hoffter o weithio gyda pherfformwyr drama ag anableddau dysgu. Ers hynny, mae ganddo dros ddeng mlynedd o brofiad o weithio yn y maes, yma yng Nghaerdydd gyda ni, yn Llundain gyda Spare Tyre ac ar gyfnod sabothol gyda Danza Mobile yn Sevilla - gyda chyfnodau fel cogydd yn Ffrainc a Gwlad Groeg, ac fel athro Saesneg yng Ngwlad Pwyl.

Mae Ben yn gyfrifol am Academi Hijinx, ein Podiau Hijinx, ein prosiectau cymunedol, ein darnau theatr fforwm, a Gŵyl Undod.

Newyddion Diweddaraf
Dilynwch friwsion bara Hansel i Ganolfan Mileniwm Cymru!

Y Nadolig hwn, ymunwch ag Odyssey, grŵp theatr gymunedol Hijinx, wrth iddyn nhw ddilyn Hansel a Gedeon ar eu hantur trwy Goedwig Grimm.

Darllen rhagor
Y diwydiant sgrin yn croesawu argymhellion ar gyfer safonau newydd gyda golwg ar gastio actorion niwroamrywiol wrth i Hijinx dargedu’r Oscar erbyn 2030

Cynigiwyd a chefnogwyd saith o ganllawiau newydd ar gastio actorion ag anableddau dysgu ac anableddau datblygiadol ar gyfer ffilm a theledu mewn cynyrchiadau ledled y byd gan uwch gynrychiolwyr y diwydiant sgrin a gwleidyddion yng Nghymru heddiw.

Darllen rhagor
Theatr Hijinx ym Maes Awyr Caerdydd diolch i ganfed buddsoddiad Celfyddydau & Busnes Cymru

Mae menter a fydd yn gweld staff ym Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hyfforddi gan actorion sydd ag anableddau dysgu er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yw'r canfed prosiect i elwa o chwistrelliad o arian gan raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru.

Darllen rhagor