Cefnogwch Ni

Mae Theatr Hijinx yn elusen gofrestredig sy'n ddibynnol ar gymorth ariannol gan unigolion a busnesau er mwyn ein galluogi ni i barhau. Dysgwch ragor am sut y gallwch chi gefnogi ein gwaith fel:

  • Cyfaill
  • Cyfaill Corfforaethol
  • Noddwr

Gallwch chi hefyd ein cefnogi drwy wneud pethau ar-lein o ddydd i ddydd, a does dim rhaid i chi dalu ceiniog! Gallwch chi hefyd godi arian i Theatr Hijinx drwy siopa ar-lein. Drwy gofrestru gyda gwefan Easy Fundraising a siopa ar wefannau eu partneriaid manwerthu, byddan nhw'n gwneud cyfraniad i'r achos o'ch dewis chi, sef Hijinx! I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan Easy Fundraising.

Ffordd arall dda o gefnogi Hijinx yw cadw'r stampiau sydd wedi'u defnyddio ar eich post. Torrwch y stampiau oddi ar yr amlenni gan gadw tua 1/4" o bapur o amgylch y stamp. Pan fyddwch wedi casglu digon i lenwi amlen, anfonwch nhw i:
Theatr Hijinx,
Used Stamp Appeal,
Fords Farm,
Horsey,
Norfolk,
NR29 4EP

(Peidiwch ag anfon y stampiau i'r swyddfa yng Nghaerdydd)
Bydd yr arian am y stampiau'n cael ei anfon yn uniongyrchol aton ni. Maen nhw'n talu yn ôl pwysau, felly po fwyaf o stampiau a gaiff eu hanfon y mwyaf o arian mae hynny'n ei olygu i ni.

 

Newyddion Diweddaraf
Theatr Hijinx ym Maes Awyr Caerdydd diolch i ganfed buddsoddiad Celfyddydau & Busnes Cymru

Mae menter a fydd yn gweld staff ym Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hyfforddi gan actorion sydd ag anableddau dysgu er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yw'r canfed prosiect i elwa o chwistrelliad o arian gan raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru.

Darllen rhagor
Llwyddiant elusen theatr Cymraeg gydag arloesi prosiect anabledd dysgu yn Lesotho

Cymerodd y cwmni theatr Hijinx, grŵp o actorion a staff anabl dysgu ar daith ar hyd Lesotho rhwng y 10-25 Chwefror, gyda phrosiect perfformiad o'r enw Able to Act.

Darllen rhagor
Elusen theatr Gymreig yn lansio prosiect anableddau dysgu arloesol yn Lesotho

Mae'r cwmni theatre Hijinx yn cymryd grŵp o actorion a staff dysgu i fynd ar daith yng nghefn gwlad Lesotho rhwng 10 a 25 Chwefror, mewn prosiect perfformio arloesol o'r enw Able to Act.

Darllen rhagor