Cyfnodau Hyfforddi

Yn dod yn fuan

Improbable Theatre, Caerdydd, 31 Hydref - 4 Tachwedd, 2017

Cyfnodau Hyfforddi Hijinx

Cyrsiau sgiliau perfformio wythnos a phythefnos o hyd yw Cyfnodau Hyfforddi Hijinx, sy'n cael eu cynnal nid yn unig gan rai o'r cwmnïau theatr mwyaf adnabyddus yng ngwledydd Prydain heddiw, ond yn cael eu cynnal yma yng Nghaerdydd. Dan arweiniad Hijinx, mae cwmnïau fel Complicite, Frantic Assembly, Spymonkey, Punchdrunk, Cardboard Citizens ac Ockham's Razor yn rhannu eu harbenigedd ac yn hyfforddi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau perfformio gan gynnwys clownio, dawns gyswllt fyrfyfyr, gwaith dyfeisgar ac ysgafn. Mae prisiau'r cyrsiau'n cychwyn o £100 yr wythnos.

Gweithio'n gynhwysol

Os nad ydych chi wedi gweithio gyda pherfformwyr ag anableddau dysgu, mae Cyfnodau Hyfforddi Hijinx yn gyfle gwych i wneud hynny. Mae nifer o lefydd ar ein cyrsiau yn cael eu neilltuo ar gyfer myfyrwyr o Academi Hijinx, sef ein cwrs hyfforddi sgiliau perfformio ar gyfer actorion talentog ag anableddau dysgu. Byddwch yn barod i weithio mewn amgylchedd bywiog, ymrymusol a hynod bleserus.

Gwneud cais

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn archebu lle, cofiwch fod proses o ddewis gan fod llefydd yn brin ar y cyrsiau. I gofrestru eich diddordeb ar unrhyw un o'r cyfnodau hyfforddi ac i gael ffurflen gais, anfonwch e-bost at ben.pettitt-wade@hijinx.org.uk neu ffoniwch 02920 300331. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd angen i chi dalu pris y gweithdy yn llawn cyn y diwrnod cyntaf.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar dudalen gymunedol National Theatre Wales.

 

Newyddion Diweddaraf
Hijinx yn Cyflwyno ei Ŵyl Ar-lein Gyntaf

Heddiw, rydyn ni wedi lansio ei ŵyl ar-lein gyntaf, sef Hijinx Online/ Ar-lein [24 Ebrill – 22 Mai] – gŵyl theatr a ffilm rhad ac am ddim.

Darllen rhagor
Diweddariad gan Hijinx

Wedi i ni atal ein gweithgareddau nos Lun diwethaf, rydym wedi treulio’r rhai diwrnodau diwethaf yn derbyn na fyddwn yn gweld ein hactorion, cyfranogwyr a’n tîm o weithwyr llawrydd a chraidd gwych pob wythnos. Mae wedi bod yn dipyn o newid byd, ond y penderfyniad cywir i gadw pawb yn saff ac yn iach. 

Darllen rhagor
Diweddariad COVID-19

Iechyd, diogelwch a lles ein staff a’n cyfranogwyr yw ein prif flaenoriaeth ar bob amser, ac yn sgil y canllawiau diweddaraf gan y llywodraeth, rydym wedi penderfynu cau ein holl weithgareddau.

Darllen rhagor