Cyrsiau Sylfaen mewn Drama

Cyrsiau Sylfaen mewn Drama – mae’r rhain yn gyrsiau wythnosol sy'n cynnig y cyfle i oedolion ag anableddau dysgu ddatblygu sgiliau bywyd trwy gyfrwng y celfyddydau perfformio.

Drama Foundations

Ar hyn o bryd rydym yn rhedeg Cyrsiau Sylfaen mewn Drama yng Nghaerdydd ac ym Mhrestatyn.

Mae’r myfyrwyr sy’n dilyn y Cwrs Sylfaen mewn Drama yn datblygu sgiliau bywyd trwy gyfrwng drama, cerddoriaeth a symudiadau - gan ddefnyddio creadigrwydd i archwilio eu bywydau eu hunain a'u lle yn y byd.

Os ydych chi'n byw yng Nghaerfyrddin neu yn Aberystwyth a bod gyda chi diddordeb mewn dilyn cwrs Sylfaen mewn Drama, mae gyda ni bellach restr aros ar gyfer darpar gyfranogwyr.

Sut alla i gymryd rhan?

Cynhelir Cyrsiau Sylfaen Hijinx mewn Drama am un diwrnod yr wythnos am 50 wythnos y flwyddyn. Os ydych chi'n 18+ oed, os oes gyda chi anabledd dysgu ynghyd â diddordeb mewn theatr, cysylltwch â Jon Dafydd-Kidd, os gwelwch yn dda, i drefnu sesiwn flasu yn lleoliad eich Cwrs Sylfaen agosaf.

Fel arall, dewch i ddysgu mwy am Academïau Hijinx.

Newyddion Diweddaraf
Elusen theatr Gymreig yn lansio prosiect anableddau dysgu arloesol yn Lesotho

Mae'r cwmni theatre Hijinx yn cymryd grŵp o actorion a staff dysgu i fynd ar daith yng nghefn gwlad Lesotho rhwng 10 a 25 Chwefror, mewn prosiect perfformio arloesol o'r enw Able to Act.

Darllen rhagor
Cyllid Newydd ar gyfer Hijinx!

Hoffai Hijinx ddiolch yn fawr iawn i'n cefnogwyr newydd sef Sefydliad Paul Hamlyn (The Paul Hamlyn Foundation). Mae Sefydliad Paul Hamlyn yn garedig iawn wedi rhoi grant o £60,000 i ni dros gyfnod o ddwy flynedd fel un o'u Grantiau Archwilio a Phrofi.

Darllen rhagor
Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Ymunwch â ni yn Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Darllen rhagor