Dan McGowan

Cydlynydd yr Academi
029 2063 5622
dan.mcgowan@hijinx.org.uk

Ganed Dan ar arfordir de Lloegr. Symudodd o gwmpas gryn dipyn, cyrhaeddodd Gymru pan oedd yn 13 oed a thyfu i fyny yma cyn mynd i Durham i astudio Ffrangeg a threulio blwyddyn yn Ffrainc yn bwyta pains au raisins. Symudodd i Lundain i fod yn actor/ysgrifennydd/cerddor/cyfarwyddwr gan fynd ar deithiau cenedlaethol a rhyngwladol, heb ddefnyddio'i Ffrangeg o gwbl heblaw ar ei wyliau, cyn cael yr awydd i symud yn ôl i Gaerdydd lle mae erbyn hyn yn hapus iawn yn gweithio i Hijinx.

Cyn gweithio i Hijinx, cafodd Dan lawer o brofiad o weithio yn y celfyddydau cynhwysol drwy sawl blwyddyn o weithio yn Llundain gyda'r Graeae Theatre Company ac yn fwy diweddar, Filmpro. Mae ei waith fel actor a cherddor yn cynnwys gwaith clodwiw Graeae Reasons to be Cheerful (lle ymddangosodd Dan yn Seremoni Agoriadol Gemau Paralympaidd 2012) a pherfformiad llwyddiannus arall y llynedd o Our House, y sioe gerdd sy'n seiliedig ar ganeuon Madness.

Mae Dan wir wedi mwynhau buddsoddi ei egni yn Academi Hijinx lle mae ei waith yn cynnwys rhedeg pethau o ddydd i ddydd a chreu cysylltiadau ledled Cymru er mwyn agor academïau mewn rhannau eraill o'r wlad.

Newyddion Diweddaraf
Mission Control yn glanio yn nhirnod mwyaf eiconig Cymru

Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer Mission Control gan National Theatre Wales a Gŵyl Undod Hijinx - cynhyrchiad newydd sbon i'w lwyfannu yng nghalon prifddinas Cymru, yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru, Stadiwm y Principality.

Darllen rhagor
Hijinx yn cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol newydd

Mae Hijinx, cwmni theatr gynhwysol sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi enw ei Brif Swyddog Gweithredol newydd heddiw. O fis Hydref, Sarah Horner, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fydd wrth y llyw yn Hijinx.

Darllen rhagor
‘Meet Fred’, y Sioe arobryn ac enillydd gwobrau lu, yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyfle prin i weld ‘Meet Fred’, sioe pum seren Hijinx, yn y DU - 26 - 28 Medi 2019.

Darllen rhagor