Ellis Wrightbrook

Cydlynydd Prosiect
029 2063 5630
ellis.wrightbrook@hijinx.org.uk

Magwyd Ellis yng Ngororau’r Alban, ac yn sgil un ceilidh (noson lawen) aeth yn drech nag e cafodd arwain i yrfa ym myd y celfyddydau. Symudiad a'r Theatr Gorfforol yw prif ddiddordebau Ellis, ac ar ôl hyfforddi yng Ngholeg Newcastle symudodd i Gymru gan ennill gradd mewn Dawns ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd (UWIC wedyn).

Yn ffres o’r brifysgol, roedd Ellis yn gwisgo sawl het y llawrydd ac yn eu plith roedd het farchnata i Theatr Iolo a het gyfathrebiadau i Ŵyl Ddawns Caerdydd. Ochr yn ochr â hyn, sefydlodd Ellis ei gwmni ei hun, sef '52 Hertz’ a derbyniodd nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer eu cynhyrchiad cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Arweiniodd hyn at 'swydd go iawn' yn y Ganolfan, lle, ym mhen hir a hwyr, y daeth Ellis o hyd i Hijinx (un o’i thrigolion).

Ar ôl secondiad cychwynnol yn 2016 i gydlynu Gŵyl Undod, ymunodd Ellis â'r tîm yn llawn amser i reoli taith anturiaethau epig Fred a chydlynu adleoli Gŵyl Undod i Gaernarfon yn 2017.

O ddydd i ddydd, Ellis sy’n gofalu am ochr gynhyrchu'r busnes, ac yn rheoli logisteg prosiectau niferus Hijinx. Hijinx yw hoff het Ellis.

Newyddion Diweddaraf
Theatr Hijinx ym Maes Awyr Caerdydd diolch i ganfed buddsoddiad Celfyddydau & Busnes Cymru

Mae menter a fydd yn gweld staff ym Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hyfforddi gan actorion sydd ag anableddau dysgu er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yw'r canfed prosiect i elwa o chwistrelliad o arian gan raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru.

Darllen rhagor
Llwyddiant elusen theatr Cymraeg gydag arloesi prosiect anabledd dysgu yn Lesotho

Cymerodd y cwmni theatr Hijinx, grŵp o actorion a staff anabl dysgu ar daith ar hyd Lesotho rhwng y 10-25 Chwefror, gyda phrosiect perfformiad o'r enw Able to Act.

Darllen rhagor
Elusen theatr Gymreig yn lansio prosiect anableddau dysgu arloesol yn Lesotho

Mae'r cwmni theatre Hijinx yn cymryd grŵp o actorion a staff dysgu i fynd ar daith yng nghefn gwlad Lesotho rhwng 10 a 25 Chwefror, mewn prosiect perfformio arloesol o'r enw Able to Act.

Darllen rhagor