Flossie & Jet

Cyfarwyddwr: Gaynor Lougher
Cyfansoddwr: James Clarke, Ty Cerdd
Dylunydd: Kitty Callister
Symud: Kylie Anne Smith

Cast: Clare Parry-Jones, Kirsty Rosser

Dyma Flossie a Jet, chwiorydd o gefndir mawreddog – roedden nhw’n arfer byw mewn plasty, ond erbyn hyn maen nhw’n ddigartref. Mae ganddyn nhw ddiddordeb yn y byd mawr newydd yma, ond maen nhw hefyd yn ceisio dal eu gafael ar weddillion eu hen fywydau. Mae Flossie a Jet yn chwilio am rywle newydd i fyw. Rhywle cynnes, heb fod yn rhy fach, rhywle lle byddan nhw’n gallu ymgartrefu.

Maen nhw’n hoff iawn o bicnic neu drip i lan-môr, ac yn awyddus bob amser i gwrdd â’r bobl leol. Efallai’n wir y bydd y ddwy chwaer fonheddig yma yn eich synnu chi wrth grwydro o gwmpas, yn y sioe fygydau brydferth a theimladwy yma.

Llwythwch ffeil y sioe i lawr yma.

Gwyliwch ragflas o Flossie a Jet yma:

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Jacqui Onions.

Newyddion Diweddaraf
Mission Control yn glanio yn nhirnod mwyaf eiconig Cymru

Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer Mission Control gan National Theatre Wales a Gŵyl Undod Hijinx - cynhyrchiad newydd sbon i'w lwyfannu yng nghalon prifddinas Cymru, yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru, Stadiwm y Principality.

Darllen rhagor
Hijinx yn cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol newydd

Mae Hijinx, cwmni theatr gynhwysol sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi enw ei Brif Swyddog Gweithredol newydd heddiw. O fis Hydref, Sarah Horner, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fydd wrth y llyw yn Hijinx.

Darllen rhagor
‘Meet Fred’, y Sioe arobryn ac enillydd gwobrau lu, yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyfle prin i weld ‘Meet Fred’, sioe pum seren Hijinx, yn y DU - 26 - 28 Medi 2019.

Darllen rhagor