Gweithdai Sgiliau Cyfathrebu

Gweithdai Sgiliau Cyfathrebu

Cwrs hanner diwrnod egnïol a rhyngweithiol, sy'n cwmpasu arfer gorau ar gyfer cyfathrebu â chwsmeriaid anabl a bregus, dros y ffôn neu yn bersonol, gyda gweithdai ymarferol.

3 awr, a ddarperir yn eich lleoliad chi.

Yn cynnwys:

  • Ymarferion cynhesu theatrig a thorri’r garw;
  • Chwarae rôl cyfarfodydd bob dydd gydag oedolion sy’n agored i niwed, er mwyn gwella ymwybyddiaeth a herio camsyniadau;
  • Senarios chwarae rôl sy'n benodol i'ch cyd-destun, er mwyn grymuso staff a rhoi iddynt fwy o hyder ac ymwybyddiaeth o anabledd yn eu tasgau bob dydd;
  • Adborth adeiladol gan hyfforddwyr sydd ag anableddau dysgu a'r grŵp.

Yn ddelfrydol ar gyfer:

  • Staff Canolfan Gyswllt;
  • Y rhai sy’n ymdrin â chwynion;
  • Timau gwasanaeth cwsmeriaid;
  • Timau blaen tŷ, yn cynnwys diogelwch, arddangos, stiwardiaid, lletygarwch ac arlwyo;
  • Desgiau Derbyn/Gwybodaeth.

I drafod sut y gall Hijinx Training eich helpu i wella eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, teilwra'ch pecyn pwrpasol a thrafod cyfraddau, cysylltwch â Vanessa Morse ar 02920 635626 neu anfonwch e-bost i vanessa.morse@hijinx.org.uk

"Pan fyddwch chi'n derbyn galwad ar ôl galwad, dydych chi ddim yn sylweddoli natur unigryw pobl. Drwy gymryd rhan yn yr hyfforddiant hwn, byddwch yn dod i ddeall y gwahanol broblemau a'r rhwystrau sydd ar waith."

Cydlynydd y Ganolfan Gyswllt, Western Power Distribution

Newyddion Diweddaraf
Hijinx yn cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol newydd

Mae Hijinx, cwmni theatr gynhwysol sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi enw ei Brif Swyddog Gweithredol newydd heddiw. O fis Hydref, Sarah Horner, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fydd wrth y llyw yn Hijinx.

Darllen rhagor
‘Meet Fred’, y Sioe arobryn ac enillydd gwobrau lu, yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyfle prin i weld ‘Meet Fred’, sioe pum seren Hijinx, yn y DU - 26 - 28 Medi 2019.

Darllen rhagor
Tair gwobr i gwmni theatr arloesol Cymraeg

Enillodd y cwmni theatr arweiniol, Hijinx, dair gwobr ar ddydd Iau 21 Mawrth, wrth ddod â thymor 2018-19 llwyddiannus iawn i ben.

Darllen rhagor