Gwisgoedd a Chelfi

Mae'r gwasanaeth yma yn cynnig ystod amrywiol o wisgoedd a chelfi ar gyfer pob math o gynyrchiadau, gyda thema neu rai cyfoes. Mae nifer o'n gwisgoedd wedi cael eu gwneud yn arbennig gan gynllunwyr medrus i gyd-fynd â'r ystod o gynyrchiadau unigryw sydd gyda ni.

Mae gyda ni hefyd ystod eang o ategolion i fynd gyda gwisgoedd, gan gynnwys wigiau a mygydau sy'n amrywio o nwyddau cartref i chwaraeon, o gyfnod y rhyfel i'n dyddiau ni. Beth bynnag fo'r digwyddiad rydych chi'n ei gynnal, mae gyda ni amrywiaeth gyffrous i chi i'w gweld.

Edrychwch yn yr oriel i weld beth sydd gyda ni i'w gynnig...

Mae gyda ni ddewis o themâu yn ogystal:

  • Nadolig

  • Indiaid

  • y Fyddin

  • Crefydd

  • Priodasau

  • A llawer mwy...

 

Y ffordd orau o weld beth sydd gyda ni yw dod heibio i weld drosoch chi eich hunan! I drefnu amser i ddod i weld ein siop, anfonwch e-bost neu ffoniwch ni ar 02920 300 331.

Newyddion Diweddaraf
Theatr Hijinx ym Maes Awyr Caerdydd diolch i ganfed buddsoddiad Celfyddydau & Busnes Cymru

Mae menter a fydd yn gweld staff ym Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hyfforddi gan actorion sydd ag anableddau dysgu er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yw'r canfed prosiect i elwa o chwistrelliad o arian gan raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru.

Darllen rhagor
Llwyddiant elusen theatr Cymraeg gydag arloesi prosiect anabledd dysgu yn Lesotho

Cymerodd y cwmni theatr Hijinx, grŵp o actorion a staff anabl dysgu ar daith ar hyd Lesotho rhwng y 10-25 Chwefror, gyda phrosiect perfformiad o'r enw Able to Act.

Darllen rhagor
Elusen theatr Gymreig yn lansio prosiect anableddau dysgu arloesol yn Lesotho

Mae'r cwmni theatre Hijinx yn cymryd grŵp o actorion a staff dysgu i fynd ar daith yng nghefn gwlad Lesotho rhwng 10 a 25 Chwefror, mewn prosiect perfformio arloesol o'r enw Able to Act.

Darllen rhagor