Hijinx Pods

Yn cyflwyno Hijinx Pods

Casgliad o ddarnau theatr un act bendigedig o hwyliog, ar gael i’w dewis a’u dethol ar gyfer theatr stiwdio, cyntedd, caffi, cae neu’r stryd. Mae’r Pods yn crynhoi naturgynhwysol Hijinx yn berffaith gan mai cast integredig o actorion gydag anableddau dysgu ac actorion heb anabledd sy’n eu perfformio. Gyda’i gilydd maen nhw’n cynnig profiad gwahanol ac arbennig a fydd yn siŵr o hoelio sylw’r gynulleidfa.

Gwyliwch ragflas o'r Hijinx Pods yma:

Edrychwch ar y dolenni ar y chwith i ddysgu rhagor am y Podiau sydd ar gael i'w harchebu ar hyn o bryd ac i weld clipiau fideo a manylion technegol.

Cynlluniwyd y Podiau'n wreiddiol ar gyfer Gŵyl Undod, ac mae'r casgliad wedi tyfu ac wedi teithio i wyliau celfyddyd stryd a gwyliau cynhwysol yng ngwledydd Prydain ac Ewrop, gan gynnwys Gŵyl Escena Mobile yn Sevilla, Gŵyl Scenes de Rue, Mulhouse, Ffrainc, ac yn 2014 bydd yn perfformio yn Glastonbury.

Hwyliog, rhyngweithiol a chynhwysol. Gwych”
Sylw o'r gynulleidfa, Campau Dŵr y Snooks

“Un o'r sioeau gorau a mwyaf doniol i mi weld erioed!”
Sylw o'r gynulleidfa, Ystafell Aros

Newyddion Diweddaraf
Mission Control yn glanio yn nhirnod mwyaf eiconig Cymru

Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer Mission Control gan National Theatre Wales a Gŵyl Undod Hijinx - cynhyrchiad newydd sbon i'w lwyfannu yng nghalon prifddinas Cymru, yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru, Stadiwm y Principality.

Darllen rhagor
Hijinx yn cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol newydd

Mae Hijinx, cwmni theatr gynhwysol sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi enw ei Brif Swyddog Gweithredol newydd heddiw. O fis Hydref, Sarah Horner, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fydd wrth y llyw yn Hijinx.

Darllen rhagor
‘Meet Fred’, y Sioe arobryn ac enillydd gwobrau lu, yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyfle prin i weld ‘Meet Fred’, sioe pum seren Hijinx, yn y DU - 26 - 28 Medi 2019.

Darllen rhagor