Hyfforddiant Busnes

Mae ein hyfforddiant cyfathrebu arbenigol yn helpu sefydliadau i ddangos eu hymrwymiad i gynhwysiant ac amrywiaeth. Yn ein sesiynau diddorol, byddwn yn gweithio gyda’ch staff i ddatblygu eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu.

ReFocus

Gyda chymorth cyllid gan Cymru Greadigol, rydym yn llawn cyffro o gyhoeddi ein hyfforddiant Cynhwysiant Anabledd Dysgu newydd i ddiwydiannau’r sgrin.

Darganfod Mwy

NEWYDD! Tu Hwnt i Eiriau – Hyfforddiant Cyfathrebu.

Tu Hwnt i Eiriau: Cyfathrebu effeithiol gyda phobl ag anableddau dysgu ac awtistiaeth yn y gweithle.

Dyluniwyd yr hyfforddiant hwn i’ch grymuso gyda strategaethau ymarferol i wella cyfathrebu, creu timau cryfach, a hyrwyddo cynhwysiant yn eich sefydliad.

Ymunwch â ni am weithdy wedi ei deilwrio i weithwyr proffesiynol sydd wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd gweithle cynhwysol, yn neilltuol i oedolion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Arbenigol.

Mae Hijinx ar flaen y gad mewn ymarfer cynhwysol ac rydym yn fedrus iawn o ran helpu timau i fagu hyder i gyfathrebu’n dda â phobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Unigryw.

Caiff ein hyfforddiant ei ddarparu gan hwyluswyr profiadol Hijinx a bydd eich tîm yn gweithio gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

Gafaelgar.

Mae eich tîm yn gallu ymarfer sgiliau mewn amgylchedd diogel ac anfeirniadol, a threulio amser gydag actorion ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth sydd â galluoedd a dewisiadau cyfathrebu gwahanol.

Pwrpasol.

Gallwn addasu ein pecynnau yn ôl eich anghenion chi a’ch busnes. Os na allwch chi ddod o hyd i becyn sy’n addas i chi, cysylltwch â ni a byddwn ni’n ceisio’ch helpu.

Quote symbol

Roeddem eisiau cael golwg ysgafn a hwyliog ar yr hyn a all fel arall fod yn bwnc sych, a darparodd Hijinx yr ateb delfrydol.

Cyfreithwyr Hugh James

Quote symbol

Mae cwmnïau arloesol fel Hijinx yn chwarae rhan bwysig dros ben o ran newid canfyddiadau ynghylch anabledd

Mae cwmnïau arloesol fel Hijinx yn chwarae rhan bwysig dros ben o ran newid canfyddiadau ynghylch anabledd