Hyfforddiant chwarae rôl

Hyfforddiant chwarae rôl

Bydd actorion sydd ag ystod o anableddau dysgu ac anableddau datblygiadol yn chwarae rôl gyda'ch staff mewn senarios un ac un, gan ddefnyddio sgriptiau wedi'u teilwra. Gallwn ddarparu actorion ag oedran chwarae o 16 oed hyd at rai yn eu 50au.

Gellir graddoli’r hyfforddiant o ½ diwrnod i fyny, a’i ddarparu yn eich lleoliad.

Mae'r pecyn yn cynnwys:

  • Ymarfer a pharatoi ein hactorion ar gyfer cyflwyno sgriptiau chwarae rôl pwrpasol;
  • Cefnogi ein hactorion ar y diwrnod;
  • Chwarae rôl un ac un gydag actorion hyfforddedig;
  • Adborth adeiladol yn cael ei ddarparu gan ein hactorion;
  • Cefnogaeth ddewisol er mwyn datblygu sgriptiau.

Manteision: 

  • Amgylchedd diogel i ymarfer rhyngweithio ynddo gydag actorion sydd â Syndrom Down, Awtistiaeth, Syndrom Asperger ac ystod o anableddau dysgu eraill;
  • Gallwch ofyn am nifer yr actorion sydd eu hangen arnoch o'n cronfa ddata o 60+ o actorion hyfforddedig sydd ar gael o hijinxactors.co.uk

CAEL GWYBOD MWY
I drafod sut y gall Hijinx Training eich helpu i wella eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, teilwra'ch pecyn pwrpasol a thrafod cyfraddau, cysylltwch â Vanessa Morse ar 02920 635626 neu anfonwch e-bost i vanessa.morse@hijinx.org.uk

Newyddion Diweddaraf
Dilynwch friwsion bara Hansel i Ganolfan Mileniwm Cymru!

Y Nadolig hwn, ymunwch ag Odyssey, grŵp theatr gymunedol Hijinx, wrth iddyn nhw ddilyn Hansel a Gedeon ar eu hantur trwy Goedwig Grimm.

Darllen rhagor
Y diwydiant sgrin yn croesawu argymhellion ar gyfer safonau newydd gyda golwg ar gastio actorion niwroamrywiol wrth i Hijinx dargedu’r Oscar erbyn 2030

Cynigiwyd a chefnogwyd saith o ganllawiau newydd ar gastio actorion ag anableddau dysgu ac anableddau datblygiadol ar gyfer ffilm a theledu mewn cynyrchiadau ledled y byd gan uwch gynrychiolwyr y diwydiant sgrin a gwleidyddion yng Nghymru heddiw.

Darllen rhagor
Theatr Hijinx ym Maes Awyr Caerdydd diolch i ganfed buddsoddiad Celfyddydau & Busnes Cymru

Mae menter a fydd yn gweld staff ym Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hyfforddi gan actorion sydd ag anableddau dysgu er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yw'r canfed prosiect i elwa o chwistrelliad o arian gan raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru.

Darllen rhagor