Academïau

Mae hyfforddi actorion sydd ag anableddau dysgu i berfformio ar lefel broffesiynol yn ganolog i'n nod. Ein nod yw creu cymuned Cymru gyfan o actorion ag anableddau dysgu sydd wedi cael eu hyfforddi i weithio’n broffesiynol yn y theatr, ar y teledu a’r radio.

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cynnig y cyrsiau hyfforddi yma:

  • Yr Academi - hyfforddiant perfformio proffesiynol ar gyfer actorion talentog sydd ag anableddau dysgu

  • Dewisiadau Creadigol - Dysgu sgiliau bywyd drwy ddrama i bobl ag anableddau dysgu

  • Cyfnodau hyfforddi - Cyrsiau sgiliau perfformio dwys, dros gyfnod o wythnos neu bythefnos, a gaiff eu harwain gan gwmnïau ac ymarferwyr blaenllaw yn y diwydiant 

Rydyn ni hefyd yn arbenigwyr ar gynhyrchu Theatr Fforwm, dull i'w ddefnyddio mewn digwyddiadau a chynadleddau i greu trafodaeth am faterion anodd sy'n bwysig i'r gymuned sydd ag anableddau dysgu.

Newyddion Diweddaraf
Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Ymunwch â ni yn Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Darllen rhagor
DATGANIAD I’R WASG: Gŵyl Undod Hijinx 2017

Gyda 50 diwrnod i fynd, mae Hijinx yn rhestru’r perfformwyr anabl fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni, 28 Mehefin - 2 Gorffennaf 2017.

Darllen rhagor
Told by an Idiot a Hijinx yn Mehefin

Weithio gyda’r cwmni theatr byd-enwog hwn i greu ‘Cabare Gwaed’, perfformiad hwyrnos gwreiddiol sy’n ymddangos yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Darllen rhagor