Into The Light

Into The Light

Cynhyrchiad Hijinx a Theatro La Ribalta mewn cydweithrediad â Frantic Assembly mewn partneriaeth â Theatr y Sherman a Danza Mobile.

 Into The Light lead image

Rydym ni i gyd yn chwennych rhyngweithiad, cysylltiad a dilysiad. Mae'r golau o’n blaenau yn addo hyn a mwy i bob un ohonom ni.

Mae llewyrch ein ffonau symudol yn ein gwahodd i gael ein gwerthfawrogi, ein coleddu a'u caru. Mae'r her o gamu allan ar y llwyfan yn cynnig rhywbeth tebyg i ni.

Wrth i'r perfformwyr gamu o'r tywyllwch i ganol y llifolau, ydyn nhw'n cael eu goleuo neu a ydyn nhw’n cael eu dodi yn y golau?

Ydyn ni'n mentro camu i mewn i'r golau? Ydyn ni'n ddim mwy na gwyfynod i'w fflam?

Mae Into The Light, sioe Hijinx a Theatro La Ribalta, dan gyfarwyddiaeth Scott Graham a Krista Vuori o Frantic Assembly, sy’n cynnwys cast o berfformwyr rhyngwladol sydd ag, yn ogystal â heb anableddau dysgu, yn theatr gorfforol fentrus am yr hawl i gael eich gweld a'ch clywed, ac mae’n cael ei pherfformio gan y rhai y mae angen inni eu gweld a'u clywed.


Breathtaking beauty - British Theatre Guide

Grabs the audience's attention from the opening second - Theatre in Wales

Visually impressive and highly atmospheric - Art Scene in Wales

Energtic international cast - Entertainment South Wales

A collective energy that is emotive and contagious - Wales Arts Review

 

Dyddiadau Taith y DU 2019


Newyddion Diweddaraf
Mission Control yn glanio yn nhirnod mwyaf eiconig Cymru

Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer Mission Control gan National Theatre Wales a Gŵyl Undod Hijinx - cynhyrchiad newydd sbon i'w lwyfannu yng nghalon prifddinas Cymru, yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru, Stadiwm y Principality.

Darllen rhagor
Hijinx yn cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol newydd

Mae Hijinx, cwmni theatr gynhwysol sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi enw ei Brif Swyddog Gweithredol newydd heddiw. O fis Hydref, Sarah Horner, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fydd wrth y llyw yn Hijinx.

Darllen rhagor
‘Meet Fred’, y Sioe arobryn ac enillydd gwobrau lu, yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyfle prin i weld ‘Meet Fred’, sioe pum seren Hijinx, yn y DU - 26 - 28 Medi 2019.

Darllen rhagor