Jacqui Onions

Gweinyddwr
029 2063 5625
jacqui.onions@hijinx.org.uk

Magwyd Jacqui o gwmpas y celfyddydau perfformio gan fod ei mam yn rhedeg ysgol ddawns yn y de. Erbyn hyn, mae Jacqui yn hyfforddwr chwaraeon dawnsio tap a dawns cadeiriau olwyn cymwysedig ac mae ganddi brofiad perfformio proffesiynol yn gweithio fel diddanwr cotiau cochion i nifer o gwmnïau gwyliau ac ar deithiau yn perfformio mewn pantomeimiau bach. Mae'n dal i fwynhau gwneud ychydig o waith achlysurol fel ecstra i raglenni teledu a ffilmiau, a'i hoff ran hyd yma oedd bod yn gorff marw gyda brathiad fampir mawr ar gyfer Being Human!

Datblygodd hoffter Jacqui o weithio yn gynhwysol pan oedd yn Weithiwr Cymorth Gweinyddol gyda dim prob, sef grŵp gwirfoddoli i fyfyrwyr. Tra roedd hi yno, bu'n rhan o nifer o brosiectau gyda phlant, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion gydag anableddau dysgu.

Mae swydd Jacqui gyda Theatr Hijinx yn cynnwys gwaith gweinyddol a logisteg.

Newyddion Diweddaraf
Theatr Hijinx ym Maes Awyr Caerdydd diolch i ganfed buddsoddiad Celfyddydau & Busnes Cymru

Mae menter a fydd yn gweld staff ym Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hyfforddi gan actorion sydd ag anableddau dysgu er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yw'r canfed prosiect i elwa o chwistrelliad o arian gan raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru.

Darllen rhagor
Llwyddiant elusen theatr Cymraeg gydag arloesi prosiect anabledd dysgu yn Lesotho

Cymerodd y cwmni theatr Hijinx, grŵp o actorion a staff anabl dysgu ar daith ar hyd Lesotho rhwng y 10-25 Chwefror, gyda phrosiect perfformiad o'r enw Able to Act.

Darllen rhagor
Elusen theatr Gymreig yn lansio prosiect anableddau dysgu arloesol yn Lesotho

Mae'r cwmni theatre Hijinx yn cymryd grŵp o actorion a staff dysgu i fynd ar daith yng nghefn gwlad Lesotho rhwng 10 a 25 Chwefror, mewn prosiect perfformio arloesol o'r enw Able to Act.

Darllen rhagor