Johnny Dawson

Intern Codi Arian
029 2030 0331
Johnny.dawson@hijinx.org.uk

Magwyd Johnny yn Bradford, Gorllewin Swydd Efrog. Ar ôl hyfforddi fel actor - a chwarae rhan Siôn Corn, sef seren y sioe mewn cynhyrchiad teithiol gan ei ysgol - symudodd i weithio gyda phlant a phobl ifanc. Bu Johnny yn gweithio yn adrannau addysg theatrau ar hyd ac ar led Lloegr, a hynny fel arweinydd Theatr Ieuenctid, swyddog cyswllt ysgolion a chydlynydd gŵyl.

Ym mis Medi 2016, symudodd Johnny i Gaerdydd i ddilyn Cwrs MA ‘Rheolaeth yn y Celfyddydau’ yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Tra ar y cwrs fe’i denwyd gan fyd sgleiniog codi arian, a chwblhaodd leoliad gydag Ymgynghoriaeth codi arian Y Ganolfan Gyllido/The Funding Centre. Ymunodd Johnny â Hijinx yn 2017 fel rhan o raglen Interniaethau Creadigol ‘Arts & Business Cymru’ ym maes Codi Arian.

Newyddion Diweddaraf
Dilynwch friwsion bara Hansel i Ganolfan Mileniwm Cymru!

Y Nadolig hwn, ymunwch ag Odyssey, grŵp theatr gymunedol Hijinx, wrth iddyn nhw ddilyn Hansel a Gedeon ar eu hantur trwy Goedwig Grimm.

Darllen rhagor
Y diwydiant sgrin yn croesawu argymhellion ar gyfer safonau newydd gyda golwg ar gastio actorion niwroamrywiol wrth i Hijinx dargedu’r Oscar erbyn 2030

Cynigiwyd a chefnogwyd saith o ganllawiau newydd ar gastio actorion ag anableddau dysgu ac anableddau datblygiadol ar gyfer ffilm a theledu mewn cynyrchiadau ledled y byd gan uwch gynrychiolwyr y diwydiant sgrin a gwleidyddion yng Nghymru heddiw.

Darllen rhagor
Theatr Hijinx ym Maes Awyr Caerdydd diolch i ganfed buddsoddiad Celfyddydau & Busnes Cymru

Mae menter a fydd yn gweld staff ym Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hyfforddi gan actorion sydd ag anableddau dysgu er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yw'r canfed prosiect i elwa o chwistrelliad o arian gan raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru.

Darllen rhagor