Jon Dafydd-Kidd

Cydlynydd Allgymorth
02920 635622
jon.kidd@hijinx.org.uk

Mae Jon yn arbenigo mewn creadigrwydd cynhwysol ac mae ganddo gefndir cadarn ym maes y Theatr yn ogystal â byd Cerddoriaeth. Mae e wedi bod yn falch iawn o gael gweithio gyda chwmnïau theatr sy'n cael eu hystyried yn arweinwyr Cymru yn eu meysydd, gan gynnwys Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru/The National Youth Theatre of Wales, Theatr Hijinx a Theatr Taking Flight. Mae e hefyd wedi mwynhau bod yn Ymarferydd Creadigol ar gyfer menter Cyngor Celfyddydau Cymru, sef Cynllun yr Ysgolion Creadigol Arweiniol.

Yn ogystal â gweithio ar ei liwt ei hun, Jon yw sylfaenydd sefydliad y celfyddydau COMMUSICATION (2012), a’r grŵp perfformio Nid Fy Mwnciod I/Not My Monkeys (2015). Ar hyn o bryd, mae Jon yn fentor i cARTrefu, menter sy'n dod ag artistiaid i leoliadau gofal er mwyn datblygu eu hymarfer eu hunain trwy gyfnodau preswyl, a gwella lles trigolion.

Roedd Jon yn ymarferydd y Genhedlaeth Nesaf ar gyfer Gŵyl a Chynhadledd Fyd-eang ASSITEJ 2017: Cradle of Creativity yn Cape Town, ac fe’i dewiswyd i fod yn un o 28 o unigolion o bob cwr o'r byd. Ers hynny, mae e wedi ymuno â bwrdd Theatr i Gynulleidfaoedd Ifanc/Theatre for Young Audiences (TYA) yn y DU ac mae'n sefyll fel cyd-gynrychiolydd o TYA Cymru.

Newyddion Diweddaraf
Tair gwobr i gwmni theatr arloesol Cymraeg

Enillodd y cwmni theatr arweiniol, Hijinx, dair gwobr ar ddydd Iau 21 Mawrth, wrth ddod â thymor 2018-19 llwyddiannus iawn i ben.

Darllen rhagor
Dilynwch friwsion bara Hansel i Ganolfan Mileniwm Cymru!

Y Nadolig hwn, ymunwch ag Odyssey, grŵp theatr gymunedol Hijinx, wrth iddyn nhw ddilyn Hansel a Gedeon ar eu hantur trwy Goedwig Grimm.

Darllen rhagor
Y diwydiant sgrin yn croesawu argymhellion ar gyfer safonau newydd gyda golwg ar gastio actorion niwroamrywiol wrth i Hijinx dargedu’r Oscar erbyn 2030

Cynigiwyd a chefnogwyd saith o ganllawiau newydd ar gastio actorion ag anableddau dysgu ac anableddau datblygiadol ar gyfer ffilm a theledu mewn cynyrchiadau ledled y byd gan uwch gynrychiolwyr y diwydiant sgrin a gwleidyddion yng Nghymru heddiw.

Darllen rhagor