Odyssey

Mae Odyssey yn grŵp theatr cymunedol cynhwysol ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu ac actorion heb anabledd sy'n rhannu'r un cariad tuag at berfformio.

Mae 30 o aelodau craidd y grŵp yn cwrdd yn wythnosol i weithio ar sgiliau perfformio, sy'n arwain at gynhyrchiad Nadolig blynyddol sy'n cael ei gynnal yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Gweler rhagor o wybodaeth am ein sioe ddiweddaraf, The Last Snow of Winter.

Mae Odyssey wedi dod yn rhan bwysig o hyfforddiant ar gyfer actorion talentog sydd ag anableddau dysgu. Mae tri aelod wedi mynd ymlaen i berfformio'n broffesiynol yn ein cynyrchiadau teithiol ac mae sawl aelod arall wedi mynd ymlaen i fod yn actorion cyflogedig yn ein darnau Theatr Fforwm ac fel cynorthwywyr gweithdai ar ein prosiectau Allgymorth. Mae aelodau o Odyssey hefyd yn cael cyfle i weithio gydag artistiaid cenedlaethol a rhyngwladol i greu perfformiadau ar gyfer Gŵyl Undod.

Dysgwch Ragor

Os oes gyda chi ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am ymuno ag Odyssey, cwblhewch y ffurflen yma a'i hanfon yn ôl aton ni.

 

Newyddion Diweddaraf
Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Ymunwch â ni yn Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Darllen rhagor
DATGANIAD I’R WASG: Gŵyl Undod Hijinx 2017

Gyda 50 diwrnod i fynd, mae Hijinx yn rhestru’r perfformwyr anabl fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni, 28 Mehefin - 2 Gorffennaf 2017.

Darllen rhagor
Told by an Idiot a Hijinx yn Mehefin

Weithio gyda’r cwmni theatr byd-enwog hwn i greu ‘Cabare Gwaed’, perfformiad hwyrnos gwreiddiol sy’n ymddangos yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Darllen rhagor