Cymunedol

Mae gyda ni hanes hir o gynnal prosiectau perfformio yn y gymuned. Y prosiect mwyaf blaenllaw yw Odyssey, sef ein grŵp theatr ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu ac actorion heb anabledd, grŵp sydd wedi ennill gwobrau. Mae gyda ni hefyd lwyth o brofiad o sefydlu a rheoli prosiectau celfyddydol untro ar gyfer pobl sydd ag anableddau dysgu, yn amrywio o weithdai drama a cherddoriaeth i greu ffilmiau.

Newyddion Diweddaraf
Hijinx yn Cyflwyno ei Ŵyl Ar-lein Gyntaf

Heddiw, rydyn ni wedi lansio ei ŵyl ar-lein gyntaf, sef Hijinx Online/ Ar-lein [24 Ebrill – 22 Mai] – gŵyl theatr a ffilm rhad ac am ddim.

Darllen rhagor
Diweddariad gan Hijinx

Wedi i ni atal ein gweithgareddau nos Lun diwethaf, rydym wedi treulio’r rhai diwrnodau diwethaf yn derbyn na fyddwn yn gweld ein hactorion, cyfranogwyr a’n tîm o weithwyr llawrydd a chraidd gwych pob wythnos. Mae wedi bod yn dipyn o newid byd, ond y penderfyniad cywir i gadw pawb yn saff ac yn iach. 

Darllen rhagor
Diweddariad COVID-19

Iechyd, diogelwch a lles ein staff a’n cyfranogwyr yw ein prif flaenoriaeth ar bob amser, ac yn sgil y canllawiau diweddaraf gan y llywodraeth, rydym wedi penderfynu cau ein holl weithgareddau.

Darllen rhagor