The Flop

The Flop

Ar y cyd â Spymonkey

The Flop title graphic

Paris. Tua 1657. Mae analluedd yn anghyfreithlon. Pan fydd un o’r byddigions yn cael ei gyhuddo o fod yn llai na chyfiawn, mae ei falchder clwyfedig yn ei arwain i gyfeiriad fflop aruthrol, cwbl gyhoeddus. Ond a all cast o ffyliaid llwyr arbed sioe sy’n adrodd am fflop ... rhag bod yn fflop?

Mae dyfeiswyr y sioe Meet Fred, fu’n llwyddiant ysgubol yn yr Edinburgh Festival Fringe 2016 yn ymuno â Spymonkey, penaethiaid y clowns, i gyflwyno tafell o dwpdra anhygoel, anarchaidd, ychydig yn ddigywilydd a doniol tu hwnt, i gyfeiliant cerddoriaeth fyw a wigiau mawr anymarferol.

 

“A wonderfully silly anarchic hour of total madness”
The British Theatre Guide

“A hoot, an utterly improbable and saucy farce featuring a brilliant integrated cast”
The Independent

“It’s a winner”
The Stage

“A brilliantly entertaining French Farce”
Broadway Baby



Newyddion Diweddaraf
Diweddariad gan Hijinx

Wedi i ni atal ein gweithgareddau nos Lun diwethaf, rydym wedi treulio’r rhai diwrnodau diwethaf yn derbyn na fyddwn yn gweld ein hactorion, cyfranogwyr a’n tîm o weithwyr llawrydd a chraidd gwych pob wythnos. Mae wedi bod yn dipyn o newid byd, ond y penderfyniad cywir i gadw pawb yn saff ac yn iach. 

Darllen rhagor
Diweddariad COVID-19

Iechyd, diogelwch a lles ein staff a’n cyfranogwyr yw ein prif flaenoriaeth ar bob amser, ac yn sgil y canllawiau diweddaraf gan y llywodraeth, rydym wedi penderfynu cau ein holl weithgareddau.

Darllen rhagor
Mission Control yn glanio yn nhirnod mwyaf eiconig Cymru

Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer Mission Control gan National Theatre Wales a Gŵyl Undod Hijinx - cynhyrchiad newydd sbon i'w lwyfannu yng nghalon prifddinas Cymru, yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru, Stadiwm y Principality.

Darllen rhagor