The Silent Toy Soldier 2015

Mewn byd lle ddylai hud, lledrith a llawenydd yr ŵyl lenwi’r awyr â miri a chân, mae rhyw dywyllwch yn cuddio ar y cyrion. Wrth i’r bygythiad nesáu, mae teganau’n dechrau diflannu. Sut allwch chi deimlo’n ddiogel heb lais? 

Ymunwch â chwmni theatr gymunedol Hijinx, Odyssey, dros y Nadolig eleni, wrth iddyn nhw rannu eu cynhyrchiad o The Nutcracker and the Mouse King gan E. T. A. Hoffmann. Mae The Silent Toy Soldier yn cynnwys cast bywiog o berfformwyr Odyssey - rhai gydag anableddau ac eraill heb - disgyblion o Ysgol Uwchradd Woodlands ac agweddau ar gerddoriaeth Tchaikovsky wedi’u hailddychmygu gan fyfyrwyr o Brifysgol De Cymru, Caerleon.  

Dyma wledd i’r teulu cyfan sy’n dilyn y Nutcracker, Sugar Plum Fairy a chymeriadau enwog y Nadolig wrth iddyn nhw deithio i ganfod rhywle y gall pawb alw’n  gartref.

I archebu, cliciwch yma

 

Newyddion Diweddaraf
Mission Control yn glanio yn nhirnod mwyaf eiconig Cymru

Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer Mission Control gan National Theatre Wales a Gŵyl Undod Hijinx - cynhyrchiad newydd sbon i'w lwyfannu yng nghalon prifddinas Cymru, yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru, Stadiwm y Principality.

Darllen rhagor
Hijinx yn cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol newydd

Mae Hijinx, cwmni theatr gynhwysol sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi enw ei Brif Swyddog Gweithredol newydd heddiw. O fis Hydref, Sarah Horner, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fydd wrth y llyw yn Hijinx.

Darllen rhagor
‘Meet Fred’, y Sioe arobryn ac enillydd gwobrau lu, yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyfle prin i weld ‘Meet Fred’, sioe pum seren Hijinx, yn y DU - 26 - 28 Medi 2019.

Darllen rhagor