The Spirit of Christmas 2014

Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru
27 - 29 Tachwedd, 7pm / 29 Tachwedd, 3pm 

Fel anrheg Nadoligaidd i bawb o bob oed, mae The Spirit of Christmas yn dathlu teulu, cyfeillgarwch a rhannu hanesion.

Mae Megan yn ceisio dod o hyd i wybodaeth am ei mamgu, perfformwraig gyfareddol dydi’r teulu byth yn ei thrafod, a ymfudodd o Gaerdydd 60 mlynedd yn ôl. Mae pawb yn dweud ei bod hi'n debyg iddi o ran golwg a thalent ond y cyfan sydd ganddi yw un ffotograff a gwahoddiad i barti. Wrth i’w theulu ddod o hyd i hen luniau, mae straeon yn dod yn fyw ac yn helpu Megan i roi’r hen hanes at ei gilydd.

Mae The Spirit of Christmas yn uno egni heintus grŵp theatr gymunedol Hijinx, Odyssey, gyda brwdfrydedd disgyblion o Ysgol Uwchradd Woodlands a myfyrwyr cerddoriaeth o Brifysgol De Cymru, Caerleon.

Mae tocynnau ar werth nawr trwy wefan Canolfan Mileniwm Cymru a'r Swyddfa Docynnau 029 20 6464 neu drwy ymweliad.

Cefnogir yn garedig gan Legal & General

Newyddion Diweddaraf
Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Ymunwch â ni yn Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Darllen rhagor
DATGANIAD I’R WASG: Gŵyl Undod Hijinx 2017

Gyda 50 diwrnod i fynd, mae Hijinx yn rhestru’r perfformwyr anabl fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni, 28 Mehefin - 2 Gorffennaf 2017.

Darllen rhagor
Told by an Idiot a Hijinx yn Mehefin

Weithio gyda’r cwmni theatr byd-enwog hwn i greu ‘Cabare Gwaed’, perfformiad hwyrnos gwreiddiol sy’n ymddangos yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Darllen rhagor