Theatr Fforwm

Dull bywiog a rhyngweithiol o hyfforddi grwpiau mawr mewn cynadleddau a seminarau, lle mae'r cynadleddwyr yn gwylio, yn stopio ac yn ailchwarae senarios dramatig sydd wedi'u hysgrifennu ar gyfer eich cyd-destun chi.

Perfformir gan actorion anabl a rhai nad ydynt yn anabl, gan ddarparu dull deniadol o archwilio materion a chanlyniadau posibl, mewn perthynas â gweithio gyda phobl anabl a phobl sy’n agored i niwed.

Opsiynau hyfforddiant hanner diwrnod a diwrnod llawn, a gyflwynir yn eich lleoliad.

“Roedd perfformiadau Hijinx yn wych - roedden nhw'n gwneud i chi feddwl ac yn codi trafodaeth ddiddorol a gwerthfawr.”
Aelod o'r gynulleidfa yng nghynhadledd Anabledd Dysgu Cymru

Y Cynnwys:

  • Golygfeydd wedi'u teilwra sydd wedi'u datblygu o brofiadau bywyd go iawn oedolion anabl;
  • Archwilio materion anodd mewn ffordd sydd heb fod yn wrthdrawiadol;
  • Mae'r sesiynau cynorthwyedig yn cynnig y cyfle i archwilio a rhoi cynnig ar atebion eraill;
  • Dull hyfforddi rhyngweithiol sy'n caniatáu i gyfranogwyr godi a rhoi cynnig arni.

Yn ddelfrydol ar gyfer:

  • Digwyddiadau a seminarau diwydiant;
  • Cyrff hyfforddi aelodaeth;
  • Cynadleddau Blynyddol.

I drafod sut y gall Hijinx Training eich helpu i wella eich sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid, teilwra'ch pecyn pwrpasol a thrafod cyfraddau, cysylltwch â Susan Kingman - Pennaeth Datblygu Busnes: Hyfforddiant - susan.kingman@hijinx.org.uk

Newyddion Diweddaraf
Hijinx yn Cyflwyno ei Ŵyl Ar-lein Gyntaf

Heddiw, rydyn ni wedi lansio ei ŵyl ar-lein gyntaf, sef Hijinx Online/ Ar-lein [24 Ebrill – 22 Mai] – gŵyl theatr a ffilm rhad ac am ddim.

Darllen rhagor
Diweddariad gan Hijinx

Wedi i ni atal ein gweithgareddau nos Lun diwethaf, rydym wedi treulio’r rhai diwrnodau diwethaf yn derbyn na fyddwn yn gweld ein hactorion, cyfranogwyr a’n tîm o weithwyr llawrydd a chraidd gwych pob wythnos. Mae wedi bod yn dipyn o newid byd, ond y penderfyniad cywir i gadw pawb yn saff ac yn iach. 

Darllen rhagor
Diweddariad COVID-19

Iechyd, diogelwch a lles ein staff a’n cyfranogwyr yw ein prif flaenoriaeth ar bob amser, ac yn sgil y canllawiau diweddaraf gan y llywodraeth, rydym wedi penderfynu cau ein holl weithgareddau.

Darllen rhagor