Theatr Stryd

Yn cyflwyno Theatr Stryd

Casgliad o ddarnau theatr un act bendigedig o hwyliog, ar gael i’w dewis a’u dethol ar gyfer theatr stiwdio, cyntedd, caffi, cae neu’r stryd. Mae ein sioeau Theatr Stryd yn crynhoi naturgynhwysol Hijinx yn berffaith gan mai cast integredig o actorion gydag anableddau dysgu ac actorion heb anabledd sy’n eu perfformio. Gyda’i gilydd maen nhw’n cynnig profiad gwahanol ac arbennig a fydd yn siŵr o hoelio sylw’r gynulleidfa.

Edrychwch ar y dolenni ar y chwith i ddysgu rhagor am y sioeau sydd ar gael i'w harchebu ar hyn o bryd. 

Cynlluniwyd y sioeau'n wreiddiol ar gyfer Gŵyl Undod, ac mae'r casgliad wedi tyfu ac wedi teithio i wyliau celfyddyd stryd a gwyliau cynhwysol yng ngwledydd Prydain ac Ewrop, gan gynnwys Gŵyl Escena Mobile yn Sevilla, Gŵyl Scenes de Rue, Mulhouse, Ffrainc, ac yn 2014 bydd yn perfformio yn Glastonbury.

Hwyliog, rhyngweithiol a chynhwysol. Gwych”
Sylw o'r gynulleidfa, Campau Dŵr y Snooks

“Un o'r sioeau gorau a mwyaf doniol i mi weld erioed!”
Sylw o'r gynulleidfa, Ystafell Aros

Newyddion Diweddaraf
Diweddariad gan Hijinx

Wedi i ni atal ein gweithgareddau nos Lun diwethaf, rydym wedi treulio’r rhai diwrnodau diwethaf yn derbyn na fyddwn yn gweld ein hactorion, cyfranogwyr a’n tîm o weithwyr llawrydd a chraidd gwych pob wythnos. Mae wedi bod yn dipyn o newid byd, ond y penderfyniad cywir i gadw pawb yn saff ac yn iach. 

Darllen rhagor
Diweddariad COVID-19

Iechyd, diogelwch a lles ein staff a’n cyfranogwyr yw ein prif flaenoriaeth ar bob amser, ac yn sgil y canllawiau diweddaraf gan y llywodraeth, rydym wedi penderfynu cau ein holl weithgareddau.

Darllen rhagor
Mission Control yn glanio yn nhirnod mwyaf eiconig Cymru

Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer Mission Control gan National Theatre Wales a Gŵyl Undod Hijinx - cynhyrchiad newydd sbon i'w lwyfannu yng nghalon prifddinas Cymru, yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru, Stadiwm y Principality.

Darllen rhagor