Gŵyl Undod

Mae Gŵyl Undod Hijinx wedi dod i ben am flwyddyn arall

A dyna i chi flwyddyn fuodd hi ....

Cynhaliwyd nawfed Gŵyl Undod Hijinx rhwng 28 Mehefin a 2 Gorffennaf 2017 a rhoddwyd llwyfan i amrywiaeth rhyfeddol o berfformiadau cynhwysol ac anabledd rhyngwladol.

Eleni am y tro cyntaf fe gludon ni antics yr Ŵyl i dref hardd Caernarfon. Meddiannwyd y Doc, sgwâr y dref, Canolfan y Celfyddydau Galeri, yn ogystal â Chastell Caernarfon - sy’n safle treftadaeth y byd - gan berfformwyr.

Edrychwch ar ein horiel o luniau a dynnwyd gan Jonathan Dunn.

Mae Gŵyl Undod Hijinx yn arddangos goreuon y celfyddydau cynhwysol ac anabledd o bedwar ban byd, a hynny am wythnos bob blwyddyn yma yng Nghymru. Cafodd yr Ŵyl ei sefydlu yn ôl yn 2008 er mwyn roi llwyfan proffil uchel i’r gwaith trawiadol a wneir gan artistiaid anabl a phobl nad ydynt yn anabl wrth iddyn nhw gydweithio fel cydraddolion. 

Cliciwch yma i lawrlwytho'r llyfryn

danza mobile

Bydd yr Ŵyl Undod yn dychwelyd yn Haf 2019, a bydd hyn yn nodi ei 10fed pen-blwydd - felly gallwch ddisgwyl iddi fod hyd yn oed yn fwy ac yn well nag erioed o'r blaen!

Er mwyn gallu cadw i fyny gyda newyddion a diweddariadau ar Ŵyl Undod Hijinx 2017, hoffwch’ ein tudalen Gŵyl Undod ar Facebook neu dilynwch ni ar Twitter.

 

  Ariennir yn Rhannol gan Lywodraeth Cymru

Mae Gŵyl Undod Hijinx wedi dod i ben am flwyddyn arall

 

A dyna i chi flwyddyn fuodd hi ....

Newyddion Diweddaraf
Cyllid Newydd ar gyfer Hijinx!

Hoffai Hijinx ddiolch yn fawr iawn i'n cefnogwyr newydd sef Sefydliad Paul Hamlyn (The Paul Hamlyn Foundation). Mae Sefydliad Paul Hamlyn yn garedig iawn wedi rhoi grant o £60,000 i ni dros gyfnod o ddwy flynedd fel un o'u Grantiau Archwilio a Phrofi.

Darllen rhagor
Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Ymunwch â ni yn Hijinx Academi y Canolbarth Cymru

Darllen rhagor
DATGANIAD I’R WASG: Gŵyl Undod Hijinx 2017

Gyda 50 diwrnod i fynd, mae Hijinx yn rhestru’r perfformwyr anabl fydd yn cymryd rhan yng Ngŵyl Undod Hijinx eleni, 28 Mehefin - 2 Gorffennaf 2017.

Darllen rhagor