Vanessa Davies

Marchnata a Chyfathrebu
029 2030 0331
vanessa.davies@hijinx.org.uk

Magwyd Vanessa (V) yn Lloegr ond ar ôl astudio Graffeg yng Nghymru syrthiodd mewn cariad â'r wlad ac â’r bachgen a ddaeth yn ŵr iddi, ac mae hi wedi aros yma byth ers hynny!

Bu V yn gweithio ers dros 10 mlynedd i asiantaeth flaenllaw ym myd brandio a marchnata yng Nghaerdydd, gan droi ei llygad creadigol a’i sgiliau cyfathrebu a threfnu rhagorol at y dasg o redeg busnes creadigol a rheoli prosiectau a rheoli tîm. Mae hi hefyd wedi gweithio ym maes cyhoeddi i gwmni addysg byd-eang, gan ehangu ymhellach y sgiliau hynny.

Ymunodd V â Hijinx yn 2017 a hi sy'n gyfrifol am Farchnata a Chyfathrebu, gan ddod â gwybodaeth sylweddol gyda hi o fyd marchnata, sgiliau creadigol ac angerdd dros gyfathrebu brand, yn ogystal â'i hoffter o bobi danteithion melys. Ar hyn o bryd mae hi'n gweithio’n rhan amser (Dydd Mawrth - Dydd Iau).

Newyddion Diweddaraf
Dilynwch friwsion bara Hansel i Ganolfan Mileniwm Cymru!

Y Nadolig hwn, ymunwch ag Odyssey, grŵp theatr gymunedol Hijinx, wrth iddyn nhw ddilyn Hansel a Gedeon ar eu hantur trwy Goedwig Grimm.

Darllen rhagor
Y diwydiant sgrin yn croesawu argymhellion ar gyfer safonau newydd gyda golwg ar gastio actorion niwroamrywiol wrth i Hijinx dargedu’r Oscar erbyn 2030

Cynigiwyd a chefnogwyd saith o ganllawiau newydd ar gastio actorion ag anableddau dysgu ac anableddau datblygiadol ar gyfer ffilm a theledu mewn cynyrchiadau ledled y byd gan uwch gynrychiolwyr y diwydiant sgrin a gwleidyddion yng Nghymru heddiw.

Darllen rhagor
Theatr Hijinx ym Maes Awyr Caerdydd diolch i ganfed buddsoddiad Celfyddydau & Busnes Cymru

Mae menter a fydd yn gweld staff ym Maes Awyr Caerdydd yn cael eu hyfforddi gan actorion sydd ag anableddau dysgu er mwyn datblygu eu sgiliau cyfathrebu yw'r canfed prosiect i elwa o chwistrelliad o arian gan raglen CultureStep Celfyddydau & Busnes (C&B) Cymru.

Darllen rhagor