Vanessa Morse

Meet Ness Morse

Cyfarwyddwr Datblygu Busnes
029 2030 0331
vanessa.morse@hijinx.org.uk

Cymerodd Vanessa daith gylchol i fyd y celfyddydau. Ar ôl ennill gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg o Goleg Prifysgol Llundain, bu’n bwrw prentisiaeth fel rheolwr digwyddiadau a gweinyddwraig gan weithio yn y sectorau technoleg a chyfraith gorfforaethol. Yn 2010 symudodd i Gaerdydd i ddilyn cwrs gradd Meistr mewn ‘Rheolaeth yn y Celfyddydau’ yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru, gan ddwyn ynghyd ei sgiliau, ei phrofiad a'i hangerdd.

Mae Ness wrth ei bodd yn gweithio ar ochr fusnes y celfyddydau mewn unrhyw beth sy'n caniatáu iddi gael dwyno’i dwylo gyda phrosiectau creadigol, strategol. Ymunodd â Hijinx yn 2011 a bu’n arwain pob agwedd ar waith marchnata a chyfathrebu’r cwmni am chwe blynedd. Yn 2017 symudodd i rôl datblygu busnes lle mae hi'n falch o fod wrthi’n cynyddu'r cyfleoedd gwaith ar gyfer 60+ o actorion talentog Hijinx sydd ag anableddau dysgu. Mae hi'n gyfrifol am ehangu gwaith hyfforddi'r cwmni ymhlith ystod eang o sefydliadau cyhoeddus, sefydliadau preifat a’r trydydd sector, a hi sy'n goruchwylio hyrwyddo llwyfan castio Actorion Hijinx.

Mae Ness yn gweithio'n rhan amser (Dydd Mawrth - Dydd Iau).

Newyddion Diweddaraf
Mission Control yn glanio yn nhirnod mwyaf eiconig Cymru

Mae'r tocynnau bellach ar werth ar gyfer Mission Control gan National Theatre Wales a Gŵyl Undod Hijinx - cynhyrchiad newydd sbon i'w lwyfannu yng nghalon prifddinas Cymru, yn un o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru, Stadiwm y Principality.

Darllen rhagor
Hijinx yn cyhoeddi Prif Swyddog Gweithredol newydd

Mae Hijinx, cwmni theatr gynhwysol sydd â’i bencadlys yng Nghaerdydd, wedi cyhoeddi enw ei Brif Swyddog Gweithredol newydd heddiw. O fis Hydref, Sarah Horner, sydd ar hyn o bryd yn Bennaeth Marchnata a Chyfathrebu gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, fydd wrth y llyw yn Hijinx.

Darllen rhagor
‘Meet Fred’, y Sioe arobryn ac enillydd gwobrau lu, yn dychwelyd i Gaerdydd

Cyfle prin i weld ‘Meet Fred’, sioe pum seren Hijinx, yn y DU - 26 - 28 Medi 2019.

Darllen rhagor